Erving Goffman

Roedd Erving Goffman (11 Mehefin 192219 Tachwedd 1982) yn gymdeithasegydd, seicolegydd cymdeithasol, ac ysgrifennwr Canadaidd-Americanaidd, a ystyrir gan rhai fel "y cymdeithasegydd Americanaidd mwyaf dylanwadol yn yr 20g". Yn 2007 fe'i rhestrwyd gan ''The Times Higher Education Guide'' fel yr awdur a gyfeirwyd fwyaf ond pump yn y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol, y tu ôl i Anthony Giddens, Pierre BourdieuMichel Foucault, ac o flaen Jürgen Habermas.

Goffman oedd y 73ain arlywydd o'r ''American Sociological Association''. Ei gyfraniad mwyaf adnabyddus i ddamcaniaeth cymdeithasol yw ei astudiaeth o ryngweithedd symbolaidd. Gwnaed hyn drwy ddadansoddiad dramatwrgiaeth, gan gychwyn gyda'i lyfr yn 1956, ''The Presentation of Self in Everyday Life''. Mae prif waith arall Goffman yn cynnwys ''Asylums'' (1961), ''Stigma'' (1963), ''Interaction Ritual'' (1967), ''Frame Analysis'' (1974), a ''Forms of Talk'' (1981). Mae ei brif feysydd astudio yn cynnwys cymdeithaseg bywyd bod dydd, yr adeiladwaith cymdeithasol o'r hunan, trefniant cymdeithasol (neu 'fframio') profiad, ac yn enwedig elfennau penodol o fywyd cymdeithasol fel ''total institutions'' a stigmâu. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2 ar gyfer chwilio 'Goffman, Erving', amser ymholiad: 0.09e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Goffman, Erving
    Cyhoeddwyd 1985
    Rhif Galw: So/200/Gof/1a
    Llyfr
  2. 2
    gan Goffman, Erving
    Cyhoeddwyd 1967
    Rhif Galw: So/200/Gof/1
    Llyfr