Émile Zola
Awdur o Ffrainc oedd Émile Zola (2 Ebrill 1840 - 29 Medi 1902). Ystyrir ef yn un o lenorion Ffrangeg pwysicaf y 19g.Ganed Zola yn ninas Paris, ond magwyd ef yn Aix-en-Provence. Wedi methdaliad ei dad, dioddefodd y teulu rai blynyddoedd o dlodi. Aeth Émile i weithio i'r cwmni cyhoeddi Hachette. Daeth i sylw gyda'i nofel ''Thérèse Raquin'' yn 1867.
Ymhlith ei weithiau enwocaf mae'r nofel ''Germinal'' (1885) a'i lythyr agored ''J'Accuse...!'' (1898) yn amddiffyn Alfred Dreyfus, oedd wedi ei garcharu ar gam fel ysbïwr.
Bu farw yn sydyn yn ei dŷ yn Rue de Bruxelles, Paris, o effeithiau nwyon carbon monocsid. Gwenwynwyd ei wraig gan y nwyon hefyd, ond llwyddwyd i achub ei bywyd hi yn ysbyty Neuilly. Darparwyd gan Wikipedia
-
1Cyhoeddwyd 2003Awduron Eraill: “...Zola,Émile...”
Rhif Galw: Be/810/Gid/1Llyfr -
2Cyhoeddwyd 1991Awduron Eraill: “...Zola,Emile...”
Rhif Galw: Be/110/Set/2Llyfr