Terrence Higgins Trust

bawd|Hysbyseb; rhan o ymgyrch HIV/AIDS "Assume Nothing" Mae'r Terrence Higgins Trust yn elusen yn y Deyrnas Unedig sy'n ymgyrchu ar faterion sy'n ymwneud â HIV ac AIDS. Nod yr elusen yn benodol yw lleihau trosglwyddiad HIV ac annog iechyd rhywiol da (gan gynnwys rhyw diogel); i ddarparu gwasanaethau ar lefel lleol a chenedlaethol i bobl sydd â, mewn perygl o gael eu heintio neu wedi cael eu heffeithio gan HIV; ac i ymgyrchu dros gwell dealltwriaeth o oblygiadau HIV ac AIDS.

Terrence Higgins Trust oedd yr elusen gyntaf yn y DU i gael ei sefydlu mewn ymateb i HIV, a chafodd ei sefydlu ym 1982.. Yn wreiddiol, galwyd yr elusen yn Terry Higgins Trust. Bu farw Terry Higgins yn 37 oed ar y 4ydd o Orffennaf, 1982 yn Ysbyty San Thomas, Llundain. Roedd ef ymhlith y bobl cyntaf i farw o AIDS. Sefydlodd ei gyfaill hir-dymor, Tony Calvert, a gwirfoddolwyr eraill yr elusen fel ffordd i atal dioddefaint o ganlyniad i AIDS. Enwyd yr elusen ar ôl Terry er mwyn creu elfen bersonol ac i bwysleisio'r elfen ddynol o AIDS. Ffurfiolwyd yr elusen ym mis Awst 1983 pan gawsant gyfansoddiad a chyfrif banc, a newidiwyd yr enw (Terrence yn hytrach na' Terry) er mwyn swnio'n fwy ffurfiol. Daeth yn gwmni cyfyngedig ym mis Tachwedd 1983 a derbyniodd statws elusen ym mis Ionawr 1984. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2 ar gyfer chwilio 'Terrence Higgins Trust', amser ymholiad: 0.03e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    Cyhoeddwyd 2009
    “...Terrence Higgins Trust...”
    Rhif Galw: Se/213/Bot/1
    Llyfr
  2. 2
    Cyhoeddwyd 2009
    “...Terrence Higgins Trust...”
    Rhif Galw: Me/110/Man/1
    Llyfr