Manuel Puig
Nofelydd, sgriptiwr ffilm, a dramodydd o'r Ariannin oedd Manuel Puig (28 Rhagfyr 1932 – 22 Gorffennaf 1990). Ei gampwaith ydy'r nofel ''El beso de la mujer araña'' (1976).Ganwyd yn General Villegas, Talaith Buenos Aires, yr Ariannin, a chafodd ei fagu yno yn y pampas. Roedd ei fam yn hoff iawn o'r sinema, a chafodd Manuel ei swyno gan fyd ffilmiau yn gynnar yn ei oes. Symudodd i'r brifddinas Buenos Aires yn 12 oed i fynychu'r ysgol breswyl. Astudiodd athroniaeth ym Mhrifysgol Buenos Aires o 1948, a dysgodd Saesneg, Ffrangeg, ac Eidaleg drwy wylio ffilmiau.
Aeth i Rufain yn 1956 i astudio cyfarwyddo ffilm mewn ysgol ffilm arbrofol, a gweithiodd ar effeithiau arbennig y ffilm ''A Farewell to Arms'' (1957). Treuliodd amser hefyd yn Stockholm ac yn Llundain. Ni chafodd ei sgriptiau fawr o sylw, a dychwelodd i'r Ariannin ar ddechrau'r 1960au.
Ysgrifennodd ei nofel gyntaf, ''La traición de Rita Hayworth'' (1968), ar sail ei blentyndod yn gwylio ffilmiau. Ymhlith ei nofelau diweddarach mae ''Pubis angelical'' (1979) a ''Maldición eterna a quien lea estas páginas'' (1980).
Wedi i Juan Perón ddychwelyd i'r arlywyddiaeth yn 1973, penderfynodd Puig adael yr Ariannin. Symudodd i Fecsico, Efrog Newydd, a Brasil. Bu farw yn Cuernavaca yn nhalaith Morelos, Mecsico, yn 57 oed, o drawiad ar y galon wedi iddo dderbyn llawdriniaeth ar ei goden fustl. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4
-
5
-
6
-
7
-
8