Anaïs Nin
| dateformat = dmy}}Awdures gweithiau erotig o Ffrainc oedd Anaïs Nin (21 Chwefror 1903 - 14 Ionawr 1977) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel hunangofiannydd, dyddiadurwr, awdur storiau byrion a sgriptiwr.
Ei henw llaw oedd Angela Anaïs Juana Antolina Rosa Edelmira Nin y Culmell ac fe'i ganed yn Neuilly-sur-Seine, maestref ar ochr gorllewinol Paris; bu farw yn Los Angeles o ganser ac fe'i claddwyd yn y môr.
Bu'n briod i Hugh Parker Guiler ac yna i Rupert Pole.
Yn un-ar-ddeg oed, dechreuodd ysgrifennu dyddiaduron cynhwysfawr, a pharhaodd i wneud hyn drwy gydol ei bywyd. Mae ei dyddiaduron, y cyhoeddwyd llawer ohonynt yn ystod ei hoes, yn manylu ar ei meddyliau a'i theimladau preifat. Maent hefyd yn disgrifio ei phriodas â Hugh Parker Guiler ac yna priodi Rupert Pole, yn ogystal â'i affêrs niferus, gan gynnwys y rhai gyda'r seicoanalydd Otto Rank a'r awdur Henry Miller. Dylanwadodd y ddau yma ar Nin yn fawr iawn. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4
-
5
-
6
-
7
-
8