Elisabeth Mann-Borgese
| dateformat = dmy}}Awdures o Ganada a'r Almaen oedd Elisabeth Mann-Borgese (24 Ebrill 1918 - 8 Chwefror 2002) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel ecolegydd ac academydd ond yn bennaf fel arbenigwr rhyngwladol mewn cyfraith morol. Roedd yn un o gyd-sefydlwyr "Clwb Rhufain" (''Club of Rome'') a gweithiai ym Mhrifysgol Dalhousie yn Halifax, Canada. Cred Clwb Rhufain oedd fod dirywiad amgylcheddol, tlodi, afiechyd endemig, malltod trefol, trosedd ayb i gyd yn yr un pair, yn gysylltieedig â'i gilydd yn hytrach nag yn endidau ar wahân.
Fe'i ganed yn München, yr Almaen a bu farw yn St. Moritz, y Swistir o niwmonia pan oedd ar wyliau sgio. Fe'i claddwyd ym Mynwent Kilchberg. Bu'n briod i Giuseppe Antonio Borgese.
Yn 52 oed, roedd Mann Borgese wedi sefydlu ei hun fel arbenigwr rhyngwladol ar y moroedd. Hi oedd sefydlydd a threfnydd y gynhadledd gyntaf ar gyfraith y môr ym Malta ym 1970, gyda'r teitl "Pacem in Maribus" ("Heddwch ar y Moroedd"). Rhwng 1973 a 1982, ffurfiodd Mann Borgese ran o'r grŵp arbenigol o ddirprwyaeth Awstria yn ystod Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Gyfraith y Môr.
Yn 59 oed, yn 1977, daeth Mann Borgese yn Athro Gwyddor Wleidyddol ym Mhrifysgol Dalhousie yn Halifax, Nova Scotia, Canada, trwy wahoddiad. Derbyniodd radd Doethur anrhydeddus mewn Cyfreithiau, o Dalhousie yn 1998, a hithau'n 80 oed, a daliodd ati i gyflawni ei dyletswyddau addysgu hyd nes ei bod yn 81. Bu farw Mann Borgese yn annisgwyl yn 83 oed yn ystod gwyliau sgïo yn St. Moritz, y Swistir. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2Cyhoeddwyd 2016Awduron Eraill: “...Mann-Borgese, Elisabeth...”
Rhif Galw: Be/110/Man2/62Llyfr