Christopher Isherwood

Nofelydd, dramodydd ac awdur straeon byrion Eingl-Americanaidd oedd Christopher William Bradshaw-Isherwood (26 Awst 19044 Ionawr 1986).

Ganwyd ym mhentref High Lane, Swydd Gaer, sydd bellach ar gyrion Manceinion Fwyaf. Mynychodd Ysgol Repton a Choleg Corpus Christi, Caergrawnt. Gweithiodd fel ysgrifennydd a thiwtor preifat cyn iddo ennill ei damaid fel awdur yn sgil ei ddwy nofel gyntaf, ''All the Conspirators'' (1928) a ''The Memorial'' (1932). Fe drigodd ym Merlin o 1929 i 1933, ym mlynyddoedd olaf Gweriniaeth Weimar. Ysgrifennodd dwy nofel fer yn seiliedig ar ei brofiadau, ''Mr. Norris Changes Trains'' (1935) a ''Goodbye to Berlin'' (1939), a gyhoeddwyd yn ddiweddarach dan y teitl ''The Berlin Stories''. Roedd y rhain yn ysbrydoliaeth i'r ddrama ''I Am a Camera'' (1951) a'r sioe gerdd ''Cabaret'' (1966). Ysgrifennodd hefyd gofiant o'i fywyd cynnar, ''Lions and Shadows'' (1938).

Fe ymfudodd i'r Unol Daleithiau ym 1939 ar wawr yr Ail Ryfel Byd ac ymsefydlodd yn ne Califfornia. Daeth yn ddinesydd Americanaidd ym 1946. Tua'r cyfnod hwn, daeth yn heddychwr ac yn ddilynwr Swami Prabhavananda, a throdd yn Hindŵ. Roedd ei weithiau wedi'r rhyfel yn cynnwys nofelau ar sail ei fywyd personol megis ''A Single Man'' (1964)a chofiannau: ''Kathleen and Frank'' (1971), ''Christopher and His Kind'' (1977), ''My Guru and His Disciple'' (1980). Cyhoeddwyd tair chyfrol o'i ddyddiaduron wedi iddo farw.

Dyn hoyw oedd Isherwodd, ac o 1953 hyd ei farwolaeth ei gymar oedd yr arlunydd Don Bachardy. Bu farw yn Santa Monica, Califfornia, o ganser yn 81 oed. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 20 canlyniadau o 61 ar gyfer chwilio 'Isherwood, Christopher', amser ymholiad: 0.06e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    Rhif Galw: Be/210/Ish/12-1
    Llyfr
  2. 2
    gan Isherwood, Christopher
    Cyhoeddwyd 1978
    Rhif Galw: Be/210/Ish/3b
    Llyfr
  3. 3
    gan Isherwood, Christopher
    Cyhoeddwyd 1956
    Rhif Galw: Be/210/Ish/9c
    Llyfr
  4. 4
    gan Isherwood, Christopher
    Cyhoeddwyd 1969
    Rhif Galw: Be/210/Ish/3a
    Llyfr
  5. 5
    gan Isherwood, Christopher
    Cyhoeddwyd 1978
    Rhif Galw: Be/210/Ish/2a
    Llyfr
  6. 6
    gan Isherwood, Christopher
    Cyhoeddwyd 1952
    Rhif Galw: Be/210/Ish/16
    Llyfr
  7. 7
    gan Isherwood, Christopher
    Cyhoeddwyd 1984
    Rhif Galw: Be/210/Ish/15a
    Llyfr
  8. 8
    gan Isherwood, Christopher
    Cyhoeddwyd 1966
    Rhif Galw: Be/210/Ish/1a
    Llyfr
  9. 9
    gan Isherwood, Christopher
    Cyhoeddwyd 1978
    Rhif Galw: Be/210/Ish/5c
    Llyfr
  10. 10
    gan Isherwood, Christopher
    Cyhoeddwyd 1978
    Rhif Galw: Be/210/Ish/15
    Llyfr
  11. 11
    gan Isherwood, Christopher
    Cyhoeddwyd 2005
    Rhif Galw: Be/110/Ish/1
    Llyfr
  12. 12
    gan Isherwood, Christopher
    Cyhoeddwyd 1964
    Rhif Galw: Be/110/Ish/8
    Llyfr
  13. 13
    gan Isherwood, Christopher
    Cyhoeddwyd 1998
    Rhif Galw: Be/110/Ish/2a
    Llyfr
  14. 14
    gan Isherwood, Christopher
    Cyhoeddwyd 1949
    Rhif Galw: Be/110/Ish/6b - R
    Llyfr
  15. 15
    gan Isherwood, Christopher
    Cyhoeddwyd 1974
    Rhif Galw: Be/210/Ish/4b
    Llyfr
  16. 16
    gan Isherwood, Christopher
    Cyhoeddwyd 1977
    Rhif Galw: Be/210/Ish/13
    Llyfr
  17. 17
    gan Isherwood, Christopher
    Cyhoeddwyd 1980
    Rhif Galw: Be/210/Ish/7b
    Llyfr
  18. 18
    gan Isherwood, Christopher
    Cyhoeddwyd 1981
    Rhif Galw: Be/210/Ish/7
    Llyfr
  19. 19
    gan Isherwood, Christopher
    Cyhoeddwyd 1986
    Rhif Galw: Be/110/Ish/4a
    Llyfr
  20. 20
    gan Isherwood, Christopher
    Cyhoeddwyd 1977
    Rhif Galw: Be/210/Ish/5
    Llyfr