Dag Hammarskjöld
bawd|Dag Hammarskjöld y tu allan i bencadlys y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd. Diplomydd, economegydd ac awdur o Sweden ac Ysgrifennydd Cyffredinol Y Cenhedloedd Unedig oedd Dag Hjalmar Agne Carl Hammarskjöld (29 Gorffennaf 1905 – 18 Medi 1961). Bu yn y swydd o Ebrill 1953 tan ei farwolaeth mewn damwain awyren ym Mis Medi 1961 yn 47 oed. Ef, hyd yma, yw'r ieuengaf i ddal y swydd ail Ysgrifennydd y CU. Mae hefyd yn un o'r unig dri pherson erioed i dderbyn Gwobr Nobel wedi iddo farw, a'r unig Ysgrifennydd Cyffredinol i farw wrth ei waith. Bu farw ar ei ffordd i gyfarfod negydu heddwch.Mewn teyrnged iddo galwodd yr Arlywydd John F. Kennedy ef "y gwladweinydd mwyaf a gawsom am ganrif gyfan." Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2