Graham Greene

Ysgrifennwr, sgriptiwr a beirniad llenyddol o Loegr oedd Henry Graham Greene (Berkhamsted, Swydd Hertford, 2 Hydref 1904 – Vevey, Swisdir, 3 Ebrill 1991). Fe'i ystyrir fel un o'r nofelwyr gorau'r 20g, ei lyfrau'n ennill llwyddiant rhyngwladol ac yn sail i nifer o ffilmiau poblogaidd.

Mae ei waith yn archwilio materion moesol amwys bywyd cyfoes. Mae nifer o'i deitlau fel ''The Confidential Agent'', ''The Third Man'', ''The Quiet American'', ''Our Man in Havana'' a ''The Human Factor'' yn adlewyrchu'i ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth ryngwladol adeg y rhyfel oer a'i gefndir a phrofiadau yn y byd ysbio.

Er iddo wrthod y label 'nofelydd Catholig' mae dylanwad neu themâu Catholig yn wraidd i lawer o'i waith, yn arbennig ''Brighton Rock'', ''The Power and the Glory'', ''The Heart of the Matter'' a ''The End of the Affair''; Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2 ar gyfer chwilio 'Greene, Graham', amser ymholiad: 0.10e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Greene, Graham
    Cyhoeddwyd 1995
    Rhif Galw: Be/110/Gre1/1
    Llyfr
  2. 2
    gan Greene, Graham
    Cyhoeddwyd 1971
    Rhif Galw: Be/210/Gre/1
    Llyfr