Robert Graves
Bardd a nofelydd o Sais oedd Robert Graves (24 Gorffennaf 1895 – 7 Rhagfyr 1985). Roedd ganddo gysylltiad agos â Chymru, cysylltiad a barodd ar hyd ei oes. Ef a wnaeth y datganiad enwog ei fod yn "Gymro trwy fabwysiadu" (''I'm Welsh by adoption''). Roedd Graves yn gyfaill i'r beirdd Siegfried Sassoon, Wilfred Owen, W. H. Davies a David Cuthbert Thomas a saethwyd ac anfarwolwyd ganddo mewn sawl cerdd. Ymladdodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn rhengoedd y Ffiwsilwyr Cymreig Brenhinol.Ei wraig gyntaf oedd yr arlunydd, Nancy Nicholson. Priododd Beryl Pritchard (1915–2003) ym 1950. bawd|Bedd Robert Graves ym Mallorca Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4
-
5
-
6
-
7