Lawrence Ferlinghetti

Bardd o'r Unol Daleithiau yn yr iaith Saesneg oedd Lawrence Monsanto Ferlinghetti (24 Mawrth 191922 Chwefror 2021) a oedd yn un o sefydlwyr cenhedlaeth y Bitniciaid yn San Francisco yn y 1950au.

Ganed yn Yonkers yn nhalaith Efrog Newydd, a chafodd ei fagu yn Ffrainc a Long Island. Gwasanaethodd yn swyddog yn Llynges yr Unol Daleithiau yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Derbyniodd ei radd baglor o Brifysgol Gogledd Carolina, ei radd meistr o Brifysgol Columbia, a'i ddoethuriaeth o'r Sorbonne ym 1951.

Ymsefydlodd Ferlinghetti yn San Francisco, Califfornia, ym 1951, ac ym 1953 agorodd ei siop lyfrau, City Lights, a fyddai'n ganolfan i gylch ''avant-garde'' y ddinas. Dan enw'r wasg City Lights Books, cyhoeddodd nifer o awduron cenhedlaeth y Bitniciaid, gan gynnwys Allen Ginsberg, Jack Kerouac, Gregory Corso, Denise Levertov, William Burroughs, a William Carlos Williams.

Cyhoeddodd ei nofel hunangofiannol, ''Little Boy'' (2019), adeg ei ganmlwyddiant. Bu farw yn San Francisco yn 101 oed. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 5 canlyniadau o 5 ar gyfer chwilio 'Ferlinghetti, Lawrence', amser ymholiad: 0.05e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Ferlinghetti, Lawrence
    Cyhoeddwyd 1980
    Rhif Galw: Be/110/Fer3/3
    Llyfr
  2. 2
    gan Ferlinghetti, Lawrence
    Cyhoeddwyd 1981
    Rhif Galw: Be/210/Fer2/2
    Llyfr
  3. 3
    gan Ferlinghetti, Lawrence
    Cyhoeddwyd 1976
    Rhif Galw: Be/210/Fer2/1
    Llyfr
  4. 4
    gan Ferlinghetti, Lawrence
    Cyhoeddwyd 1981
    Rhif Galw: Be/110/Fer3/2
    Llyfr
  5. 5
    gan Ferlinghetti, Lawrence
    Cyhoeddwyd 1972
    Rhif Galw: Be/110/Fer3/1
    Llyfr