Johann Heinrich Füssli

''Bodmer a Füssli o flaen penddelw Homer'' (1778-81), gan Füssli Arlunydd ac awdur ar gelf o'r Swistir oedd Johann Heinrich Füssli (7 Chwefror 174117 Ebrill 1825), a ymsefydlodd yn Lloegr lle daeth yn adnabyddus wrth yr enw Henry Fuseli, enw a fabwysiadodd tra'n gweithio yn yr Eidal yn y 1770au. Roedd yn frodor o Zürich.

Ganed Füssli yn Zurich yn 1741 yn fab i'r peintiwr portreadau Johann Caspar Füssli (1706-1782). Ganed ei frawd Johann Kaspar (1743-1786) ddwy flynedd yn ddiweddarach a daeth yn entomolegydd adnabyddus.

Nodweddir peintiadau a darluniau Füssli gan arddull dyrchafol, delfrydol, a ysbrydolwyd gan waith Michelangelo ac eraill. Prif destunau ei waith yw digwyddiadau mawr mewn hanes a themau mytholegol, yn enwedig o fytholeg yr Henfyd.

Yn Lloegr daeth Füssli yn ffigwr dylanwadol iawn ym myd celf. Yn 1799 cafodd ei apwyntio yn athro arlunio yn yr Academi Frenhinol, Llundain, ac yn geidwad yn 1804. Ymhlith ei ddisgyblion yn yr Academi roedd John Constable (1776-1837), Benjamin Robert Haydon (1786-1846), William Etty (1787-1849), Edwin Landseer (1802-73), a'r Cymro Penry Williams (1880-1885). Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2 ar gyfer chwilio 'Füssli, Johann Heinrich', amser ymholiad: 0.03e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Ganz, Paul
    Cyhoeddwyd 1947
    Awduron Eraill: “...Füssli, Johann Heinrich...”
    Rhif Galw: Ka/110/Füs/3 - R
    Llyfr
  2. 2
    gan Klemm, Christian
    Cyhoeddwyd 1986
    Awduron Eraill: “...Füssli, Johann Heinrich...”
    Rhif Galw: Ka/110/Füs/2
    Llyfr