Lili Elbe
Yr oedd Lili Ilse Elvenes, a adnabyddir yn well fel Lili Elbe (28 Rhagfyr 1882 – 13 Medi 1931), yn ferch drawsryweddol o Ddenmarc. Roedd hi ymysg y bobl gyntaf un i dderbyn llawdriniaeth ailgyfeirio rhyw. Ganwyd Elbe yn Einar Magnus Andreas Wegener ac roedd yn artist llwyddiannus o dan yr enw hwnnw. Ymddangosodd hefyd fel Lili, sillafir Lily weithiau, a fe'i chyflwynwyd yn gyhoeddus fel chwaer Einar. Ar ôl trawsnewid, newidiodd ei henw yn gyfreithiol i Lili Ilse Elvenes, yn ogystal â rhoi'r gorau i'w gyrfa beintio.Arddangosir blwyddyn geni Elbe fel 1886 weithiau. Mae'n debyg mai ffynhonnell hyn yw llyfr amdani, lle newidiwyd rhai ffeithiau er mwyn gwarchod hunaniaethau'r rhai a fanylwyd ynddo. Dengys cyfeiriadau ffeithiol i fywyd gwraig Elbe, Gerda Gottlieb, mai 1882 yw'r dyddiad cywir, oherwydd y ffaith amlwg a briodant tra yn y coleg yn 1904. Mae'n debygol iawn bod Elbe yn berson rhyngrywiol, er bod rhai yng anghytuno.
Cyhoeddwyd ei hunangofiant ''Man into Woman'', yn 1933. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4
-
5