Ellen DeGeneres
Actores, digrifwraig a chyflwynydd teledu o'r Unol Daleithiau yw Ellen Lee DeGeneres (ganwyd 26 Ionawr 1958). Mae hi wedi ennill Gwobr Emmy deuddeg gwaith ac mae'n cyflwyno The Ellen DeGeneres Show.Cyflwynodd seremoni Gwobrau'r Academi a'r Emmys. Fel actores ffilm, serennodd yn ''Mr. Wrong'', a darparodd y llais ar gyfer cymeriad Dory yn ffilm animeiddiedig Pixar, ''Finding Nemo''. Serennodd mewn dau gomedi sefyllfa hefyd, ''Ellen'' o 1994 tan 1998 ac ''The Ellen Show'' o 2001 tan 2002. Ym 1997, yn ystod y bedwaredd gyfres o Ellen, daeth Ellen allan yn gyhoeddus fel lesbiad tra'n cael ei chyfweld gan Oprah Winfrey. Yn fuan wedi hyn, daeth ei chymeriad yn y rhaglen gomedi Ellen Morgan allan i'w therpaydd, a oedd yn cael ei chwarae gan Oprah Winfrey. Aeth y gyfres yn ei blaen i edrych ar faterion LHDT gwahanol, yn ogystal â'r broses o ddod allan. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3