Edward Carpenter

Roedd Edward Carpenter (29 Awst 184428 Mehefin 1929) yn fardd sosialaidd, yn athronydd ac yn anthropolegydd cynabyddedig. Mae'n fwyaf nodedig am ei lyfr ''Civilisation, Its Cause and Cure'' (1889).

Cafodd Edward Carpenter ddylanwad mawr ar ewythr a thad y bardd o Gymro, Waldo Williams, ac ar Waldo ei hun. Roedd Carpenter yn un o brif sefydlwyr y Blaid Lafur Annibynnol. Roedd yn gyfaill i Rabindranath Tagore a Walt Whitman. Cyfatherbai gyda Annie Besant, Isadora Duncan, Havelock Ellis, Roger Fry, Mahatma Gandhi, Keir Hardie, William Morris, Edward R. Pease a John Ruskin.

Fel athronydd caiff ei gofio'n bennaf am ei gyfrol ''Civilisation, Its Cause and Cure'' (1889) ble mae'n awgrymu mai math o afiechyd yw gwareiddiad. Llyfr arall dylanwadol ar Waldo Williams oedd ''The Healing of Nations and the Hidden Sources of their Strife'' (1915).

Credai'n gryf mewn "rhyddid rhyw" a dylanwadodd ar D. H. Lawrence, Sri Aurobindo, ac ysbrydolodd nofel E. M. Forster ''Maurice''. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 5 canlyniadau o 5 ar gyfer chwilio 'Carpenter, Edward', amser ymholiad: 0.05e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Carpenter, Edward
    Cyhoeddwyd 1903
    Rhif Galw: Se/117/Car/1 - R
    Llyfr
  2. 2
    gan Carpenter, Edward
    Cyhoeddwyd 1929
    Rhif Galw: Se/110/Car/2 - R
    Llyfr
  3. 3
    gan Carpenter, Edward
    Cyhoeddwyd 1984
    Rhif Galw: Be/210/Car5/1
    Llyfr
  4. 4
    gan Carpenter, Edward
    Cyhoeddwyd 1979
    Rhif Galw: Se/110/Car/1
    Llyfr
  5. 5
    gan Carpenter, Edward
    Cyhoeddwyd 1903
    Rhif Galw: Be/110/Car2/1 - R
    Llyfr