Georges Bataille
Athronydd, llenor, a beirniad o Ffrainc oedd Georges Bataille (10 Medi 1897 – 9 Gorffennaf 1962) a fu'n ymwneud ag erotiaeth, cyfriniaeth, ac afresymoldeb yn ei amryw weithiau. Ysgrifennodd nifer o lyfrau, gan gynnwys nofelau, barddoniaeth, ac ysgrifau. Mae ei waith yn cael ei ystyried yn golyn rhwng gwahanol dueddiadau ym meddwl dechrau'r 20g, sef ôl-foderniaeth a dadadeiladaeth.Ganed ef yn Billom, yn ''département'' Puy-de-Dôme yng nghanolbarth Ffrainc, yng nghyfnod y Drydedd Weriniaeth. Fe'i hyfforddwyd yn archifydd yn yr École des Chartes, ysgol baleograffeg ym Mharis. Gweithiodd yn llyfrgellydd ac yn ganoloesydd yn Bibliothèque nationale de France hyd at 1942, a fe'i penodwyd yn geidwad Llyfrgell Orléans ym 1951. Sefydlodd y cylchgrawn llenyddol ''Critique'' ym 1946, a byddai'n golygu'r hwnnw am 16 mlynedd, hyd at ei farwolaeth, ym Mharis, yn 64 oed.
Ymhlith ei nofelau mae'r stori erotig ''Histoire de l'oeil'' (1928). Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4
-
5
-
6
-
7
-
8
-
9
-
10
-
11
-
12
-
13
-
14Rhif Galw: Se/111/Kra/1Llyfr
-
15Rhif Galw: Se/111/Kra/1dLlyfr
-
16gan Jahnn, Hans HennyAwduron Eraill: “...Bataille, Georges...”
Cyhoeddwyd 1979
Rhif Galw: Ks/610/Jah/4Llyfr