Alain-Fournier

Alain-Fournier oedd ffugenw y nofelydd o Ffrainc, Henri Alban-Fournier (3 Hydref 1886 - 22 Medi 1914). Ystyrir ei unig nofel, ''Le Grand Meaulnes'' (1913), yn glasur.

Ganed Alain-Fournier yn La Chapelle-d'Angillon, yn ''département'' Cher. Bu'n ysgrifennu beirniadaeth lenyddol i'r cylchgrawn ''Paris-Journal'' o 1910 ymlaen, yna'n gynorthwydd personol i'r gwleidydd Casimir Perrier. Gorffennodd ''Le Grand Meaulnes'' yn gynnar yn 1913, ac fe'i cyhoeddwyd yn y Nouvelle Revue Française rhwng Gorffennaf a Hydref, cyn ei gyhoeddi fel llyfr.

Ymunodd a'r fyddin pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf yn Awst 1914. Fe'i lladdwyd fis yn ddiweddarach, mewn brwydr ger Vaux-lès-Palameix. Cyhoeddwyd ei weithiau llenyddol eraill wedi ei farwolaeth. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2 ar gyfer chwilio 'Alain-Fournier', amser ymholiad: 0.14e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    Rhif Galw: Be/110/Fou1/1a
    Llyfr
  2. 2
    gan Alain-Fournier
    Cyhoeddwyd 1946
    Rhif Galw: Be/110/Fou1/1 - R
    Llyfr